Helo, Mererid ydw i - person creadigol dwyieithog yn gweithio'n llawrydd yng Ngwynedd. Dwi'n cydweithio gyda busnesau bach, unigolion a sefydliadau ledled Gogledd Cymru i ddarparu cefnogaeth gyfeillgar, un-i-un i'ch helpu chi gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol trwy farchnata a dylunio.
Boed chi'n llunio'ch brand, angen gwaith graffeg deniadol, neu angen cynllun marchnata ymarferol, rwyf yma i wneud y broses yn syml, yn bersonol, ac wedi'i theilwra i chi. Cysylltwch â mi a gadewch i ni weld sut allai eich helpu chi wireddu'ch syniadau!
Dylai’ch brand ymgysylltu'n glir gyda'ch cynulleidfa. Gallaf eich helpu i greu logos, delweddau a darganfod eich llais brand sy'n adlewyrchu eich busnes, boed eich bod yn fusnes newydd, yn ail-frandio neu'n tyfu.
Gall marchnata deimlo’n heriol, ond gallaf wneud y broses yn haws gyda chefnogaeth a chymorth. O ymchwil marchnad i gynllunio ymgyrchoedd, mi ddefnyddiai ddulliau ymarferol i helpu chi gyrraedd eich amcanion.
Gallaf ddylunio delweddau clir a deniadol sy’n helpu chi gyfleu’ch neges yn effeithiol. A pan bydd prosiect yn galw am rywbeth unigryw, gallaf greu darluniau i roi cymeriad a chreadigrwydd ychwanegol i’ch prosiect.
Os ydych angen cymorth gyda marchnata neu chyfathrebu gweledol, hoffwn glywed gennych.
Gwnewch banad, anfonwch neges, a gadewch i ni weld beth allwn ni greu gyda’n gilydd!
neu e-bostiwch Mererid ar panad.graphics@gmail.com