Mererid Gordon, yn masnachu fel Panad Graphics, yw’r rheolwr data sy’n gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol.
Gallwch gysylltu â mi ar: panad.graphics@gmail.com
Pan fyddwch yn cysylltu â mi neu’n defnyddio fy ngwasanaethau, efallai y byddaf yn casglu:
Eich enw a manylion cyswllt (megis cyfeiriad e-bost a rhif ffôn)
Gwybodaeth am eich busnes neu’ch prosiect a ddarparwch er mwyn i mi ddarparu gwasanaethau dylunio a marchnata
Rwyf ond yn casglu y wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu fy ngwasanaethau.
Rwy’n prosesu eich data personol ar y sylfeini cyfreithiol canlynol:
Cytundeb: I ddarparu’r gwasanaethau rydych wedi’u gofyn am ac i gyfathrebu gyda chi am eich prosiect.
Rhwymedigaeth Cyfreithiol: I gynnal cofnodion ar gyfer treth a phwrpasau cyfrifyddu.
Buddiannau Cyfreithlon: I reoli fy musnes yn effeithiol (er enghraifft, cadw cofnod o brosiectau blaenorol).
Rwy’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:
Gyfathrebu gyda chi am brosiectau, dyfynbrisiau, a gwasanaethau
Ddarparu gwaith dylunio a marchnata cytunedig
Gadw cofnodion angenrheidiol ar gyfer cyfrifyddu ac ymrwymiad cyfreithiol
Nid wyf yn gwerthu na rhannu eich data gyda trydydd partïon at ddibenion marchnata.
Rwy’n cadw gwybodaeth bersonol dim ond cyhyd ag sydd ei hangen i ddarparu fy ngwasanaethau a chyflawni fy rhwymedigaethau cyfreithiol.
Fel arfer, caiff ffeiliau prosiect eu cadw am hyd at 3 blynedd. Caiff cofnodion ariannol eu cadw am 6 blynedd yn unol â gofynion yr HMRC.
Mae gennych yr hawl i:
Ofyn am gopi o’r data personol sydd gennyf amdanoch
Ofyn i mi gywiro gwybodaeth anghywir
Ofyn am ddileu’ch data pan nad oes ei angen mwyach
Gyfyngu neu wrthwynebu sut rwy’n prosesu’ch data mewn rhai amgylchiadau
I ymarfer y hawliau hyn, cysylltwch â mi ar panad.graphics@gmail.com
Os nad ydych yn fodlon â sut rwy’n trin eich data, mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis gan Google i ddarparu ei wasanaethau ac i ddadansoddi traffig. Rhennir gwybodaeth am eich defnydd o’r safle hwn gyda Google. Drwy glicio “derbyn” pan ofynnir, rydych yn cytuno i’r defnydd o gwcis.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu sut caiff eich data ei drin, cysylltwch â:
Enw: Mererid Gordon
Masnachu fel: Panad Graphics
E-bost: panad.graphics@gmail.com